-
Infection Prevention and Control e-learning
-
Adnoddau dysgu digidol newydd ar gyfer atal a rheoli heintiau
Rydym wedi datblygu set o fodiwlau dysgu digidol i helpu unrhyw un sy’n ymwneud â’r sector gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant i wybod sut i ymddwyn i leihau lledaeniad heintiau.
Mae 3 modiwl ar gael:
Anelir Lefel 00 at y rhai sy'n ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant, gofalwyr a/neu deuluoedd a allai fod yn ymweld â rhywun mewn lleoliad gofal
Anelir Lefel 01 at bobl sydd naill ai'n ymweld â lleoliadau gofal fel gweithiwr proffesiynol, er enghraifft gweithiwr cymdeithasol, neu'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal mewn rôl nad yw'n darparu gofal a chymorth uniongyrchol, er enghraifft gweinyddwr.
Anelir Lefel 02 at weithwyr sy'n darparu gofal a chymorth uniongyrchol mewn lleoliad gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant
Mae'r modiwlau ar gael am ddim i unrhyw un yn
https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/modiwlau-dysgu
-